Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
16 Rhagfyr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11127
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 13.30
I’r Prif Weinidog
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau pellach i ymateb i’r pandemig COVID-19?
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Dechreuodd yr eitem am 14.13
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 7 a 10 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 15.00
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiwn 2 ei ateb gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.51
I Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am golli swyddi yn Rhys Davies Logistics yn Ffynnon Taf o ganlyniad i roi’r cwmni yn nwylo gweinyddwyr?
I’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â phwysau ar y GIG dros y gaeaf, ar wasanaethau ac amseroedd aros am ddiagnosis a thriniaeth?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 16.15
Gwnaeth Helen Mary Jones ddatganiad am Nigel Owens yn creu hanes, drwy fod y dyfarnwr cyntaf i gyrraedd 100 o gemau prawf rhyngwladol.
Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad am Morforwyn Merthyr – Cath Pendleton. Creu record drwy nofio un filltir yn Antarctica.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.18 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
5 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach
Dechreuodd yr eitem am 16.24
NDM7518 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2020.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 2 Rhagfyr 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar y Gymraeg
Dechreuodd yr eitem am 17.13
NDM7519 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Effaith argyfwng COVID-19 ar y Gymraeg, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.40 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
7 Dadl Plaid Cymru – Prydau ysgol am ddim
Dechreuodd yr eitem am 17.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7521 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim ar unwaith i sicrhau bod unrhyw blentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, yn gymwys, fel y cam cyntaf tuag at sicrhau bod prydau bwyd maethlon yn cael eu darparu am ddim i bob plentyn oed ysgol yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
3 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma’r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau ysgol;
b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy’n hunanynysu neu’n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i adolygu’r trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim pan fydd data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gael fis Ebrill 2021.
Y Sefydliad Polisi Addysg (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
5 |
18 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7521 Sian Gwenllian (Arfon)
Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma’r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau ysgol;
b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy’n hunanynysu neu’n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i adolygu’r trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim pan fydd data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gael fis Ebrill 2021.
Y Sefydliad Polisi Addysg (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
5 |
18 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 18.44
NDM7528 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i), 29.4 a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NDM7529 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth)
Dechreuodd yr eitem am 18.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7529 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Masnach (Datgelu Gwybodaeth) (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
8 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
9 Cyfnod Pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.55 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 19.01
10 Dadl Fer – Gohiriwyd o 9 Rhagfyr
Dechreuodd yr eitem am 19.04
NDM7504 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)
Pwysigrwydd cefnogwyr mewn digwyddiadau chwaraeon ar gyfer gwead cymdeithasol ein cymunedau.
11 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 19.16
NDM7517 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Achub ein cerfluniau: pwysigrwydd parhaus cofebau a henebion hanesyddol.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.37
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2021